Rheolwr Cyllid Allanol
Role Description & Overview
Rheolwr Cyllid Allanol
Helpu i ddiogelu Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ydych chi'n weithiwr proffesiynol profiadol ym maes codi arian sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth go iawn? Rydym yn chwilio am Reolwr Cyllid Allanol deinamig, arloesol, a ysgogir gan ganlyniadau i arwain y gwaith o ddatblygu a chyflawni ein strategaeth codi arian, a sbarduno twf incwm cynaliadwy ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol ar adeg arwyddocaol yn ein datblygiad, gan helpu i sicrhau cyllid hanfodol i gynnal y gwaith cadwraeth, gwelliannau a mwynhad pobl o un o dirweddau gwarchodedig mwyaf ysblennydd y DU.
Yn gweithio mewn lleoliad arfordirol godidog, byddwch yn ymuno â sefydliad cefnogol a blaengar sydd wedi ymrwymo i gyflawni canlyniadau o ansawdd uchel tra’n hyrwyddo cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith. Bydd trefniadau gweithio hyblyg a hybrid yn cael eu hystyried ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Ynglŷn â'r Swydd
- Yn arwain y gwaith o gyflawni'r strategaeth codi arian ar gyfer yr Awdurdod a'r Ymddiriedolaeth, gan sicrhau bod y targedau uchelgeisiol o gynhyrchu incwm yn cael eu diwallu.
- Rhoi arweinyddiaeth strategol a rheolaeth ddyddiol i Ymddiriedolwyr Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
- Paratoi a chyflwyno adroddiadau i'r Bwrdd Ymddiriedolwyr, rheoli cyllidebau a rhoi diweddariad cyson ar faterion ariannol a pherfformiad.
- Goruchwylio’r cynlluniau cyfathrebu a marchnata i gynorthwyo’r gweithgareddau codi arian ac ymgysylltu â’r rhanddeiliaid.
- Gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolwyr i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau ac arfer gorau y Comisiwn Elusennau, CThEF a'r sector codi arian.
- Cynhyrchu incwm cyfyngedig a heb gyfyngiadau drwy bortffolio amrywiol o ffrydiau ariannu, gan gynnwys ymddiriedolaethau a sefydliadau, partneriaethau corfforaethol, rhoddwyr mawr, rhoddion unigol a chodi arian drwy fesurau etifeddiaeth.
- Meithrin a chynnal perthnasoedd cadarn gyda chyllidwyr, rhoddwyr, partneriaid a rhanddeiliaid i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd cyllido a mentrau cydweithredol.
Amdanoch Chi
- Profiad sylweddol mewn swydd uwch ym maes codi arian, datblygu neu gynhyrchu incwm.
- Hanes profedig o sicrhau cyllid a chyrraedd neu ragori ar dargedau incwm yn gyson o amrywiaeth o ffynonellau.
- Sgiliau cadarn o drefnu a rheoli prosiectau, gyda'r gallu i reoli blaenoriaethau a therfynau amser cystadleuol yn effeithiol.
- Profiad o reoli cyllidebau a chynhyrchu adroddiadau o ansawdd uchel ar gyfer uwch arweinwyr, byrddau neu ymddiriedolwyr.
- Sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a dylanwadu rhagorol, gyda'r gallu i feithrin perthnasoedd cynhyrchiol ag ystod eang o randdeiliaid.
- Ymagwedd rhagweithiol, arloesol a strategol at godi arian a datblygu partneriaethau.
Mae Disgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ar gael i'w lawrlwytho.
Cyflog a Buddion:
Cyflog o £40,444-43,146 y flwyddyn, lleiafswm o 25 diwrnod o wyliau yn codi i 30 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gwych o weithio oriau hyblyg a chyfleoedd datblygu gyrfa.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein proses recriwtio yn hygyrch i bawb. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch ar unrhyw gam o’ch cais, anfonwch e-bost at neu ffoniwch . Rydym yn croesawu ymgeiswyr sy’n defnyddio cwn cymorth a byddwn yn sicrhau y gallant fod gyda chi drwy gydol y broses recriwtio. Os oes angen unrhyw drefniadau penodol neu gymorth ychwanegol arnoch, rhowch wybod i ni a byddwn yn gwneud ein gorau i ddiwallu eich anghenion. Gellir darparu gwybodaeth mewn fformatau amgen, gan gynnwys Word, PDF hygyrch, print bras, sain a fformatau eraill ar gais.
Dyddiad Cau:
13/12/2026
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar.
Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Deallwn y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer megis deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i gynorthwyo’r gwaith o baratoi eu cais. Er y caniateir defnyddio’r cyfryw offer, cyfrifoldeb llwyr yr ymgeisydd yw sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn cynrychioli eu sgiliau, eu profiadau a'u cymwysterau hwy eu hunain.
- Gall cyflwyno gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu wedi'i gorliwio, p'un a gafodd y wybodaeth ei chynhyrchu gan Ddeallusridd Artiffisial ai peidio, olygu eich bod yn anghymwys i fod yn rhan o'r broses recriwtio neu olygu eich diswyddo os caiff hynny ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Ready to apply for this finance role?
Click below to view the official posting for Rheolwr Cyllid Allanol and submit your application directly on the employer or partner site.
Not the right fit? Never miss similar roles
Get newly listed Rheolwr Cyllid Allanol vacancies in pembroke dock delivered to your inbox.
Key Details
- Date Posted: 17 Nov 2026
- Location: pembroke dock
- Employment: Permanent
- Workplace: Hybrid
- Specialism: Finance
Email Me Similar Jobs
Get daily finance & accounting vacancies in pembroke dock.
Trusted cloud accounting, tax compliance & payroll software for UK finance professionals and practices.
Explore SageNeed an updated CV for this role?
Build an ATS-optimised finance CV in minutes with professional templates.
Build Free CV NowEmployer Profile
Pembrokeshire Coast National Park Authority
Verified Practice / CorporateVerified accountancy practice or enterprise finance team operating across the UK economy.
More Jobs at Pembrokeshire Coast National Park Authority